Daniel 10

Gweledigaeth Daniel ar lan Afon Tigris

1Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Cyrus,
10:1 trydedd flwyddyn teyrnasiad Cyrus 536 CC Roedd Daniel tua wyth deg pedwar oed.
brenin Persia, cafodd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) neges arall. Neges am rywbeth fyddai wir yn digwydd – amser o ryfela a dioddef. Ac roedd Daniel wedi deall y neges a'r weledigaeth gafodd.

2Ar y pryd, roeddwn i, Daniel, wedi bod yn galaru am dair wythnos lawn. 3Ro'n i'n bwyta bwyd plaen – dim byd cyfoethog, dim cig na gwin. A wnes i ddim rhwbio olew ar fy nghorff nes oedd y tair wythnos drosodd. 4Yna ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf
10:4 mis cyntaf Nisan (oedd hefyd yn cael ei alw yn Abib), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill. Dyma pryd oedd Gŵyl y Pasg yn cael ei dathlu – gw. Exodus 12:2
ron i'n sefyll ar lan yr afon fawr, y Tigris.
5Gwelais ddyn yn sefyll o'm blaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol. c 6Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, a'i lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau a'i goesau yn gloywi fel pres wedi ei sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau. 7Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio. 8Felly dyna lle roeddwn i'n sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cwbl. Ro'n i'n teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Ro'n i'n hollol wan. 9Pan glywais e'n dechrau siarad dyma fi'n llewygu. Ro'n i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr.

10Ond yna dyma law yn fy nghyffwrdd, a'm codi ar fy nwylo a'm gliniau. 11“Daniel,” meddai, “rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Gwranda ar beth dw i'n mynd i'w ddweud wrthot ti. Saf ar dy draed. Dw i wedi cael fy anfon atat ti.” Pan ddwedodd hyn, dyma fi'n sefyll ar fy nhraed, ond ron i'n dal i grynu. 12Yna dwedodd, “Daniel, paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed dy weddi ers y diwrnod cyntaf i ti blygu o'i flaen i geisio deall. A dw i wedi dod o achos dy weddi. 13Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd
10:13 arweinydd Hebraeg, “tywysog”. Cyfeiriad at angel mae'n debyg.
teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o'r prif arweinwyr, yn dod i'm helpu pan oeddwn i'n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun.
14Ond dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol. Gweledigaeth am y dyfodol ydy hi.”

15Tra roedd yn siarad roeddwn i'n edrych i lawr, ac yn methu dweud gair. 16Yna dyma un oedd yn edrych fel person dynol yn cyffwrdd fy ngwefusau, a dyma fi'n dechrau siarad. “Syr,” meddwn i wrtho, “mae beth dw i wedi ei weld yn ormod i'w gymryd. Dw i'n teimlo'n hollol wan. 17Meistr, sut alla i sydd ddim ond gwas, siarad â rhywun fel ti? Does gen i ddim nerth ar ôl. Dw i prin yn gallu anadlu!” 18Yna dyma'r un oedd yn edrych fel person dynol yn fy nghyffwrdd i eto, a rhoi nerth i mi. 19“Paid bod ag ofn,” meddai. “Ti'n ddyn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Bydd popeth yn iawn. Bydd yn ddewr! Bydd yn ddewr go iawn!” Wrth iddo siarad roeddwn i'n teimlo fy hun yn cryfhau. A dyma fi'n dweud, “Gelli siarad nawr, syr. Rwyt ti wedi gwneud i mi deimlo'n well.”

20Yna meddai, “Wyt ti'n gwybod pam dw i wedi dod atat ti? Yn fuan iawn rhaid i mi fynd yn ôl i ymladd yn erbyn arweinydd Persia. Ond ar ôl i mi wneud hynny, bydd arweinydd y Groegiaid yn dod. 21Ond yn gyntaf, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wedi ei ysgrifennu mewn llyfr sy'n ddibynadwy. Does neb i'm helpu i yn eu herbyn nhw ond Michael, eich arweinydd chi.

Copyright information for CYM